Brodor o Fethel, Gwynedd yw Huw Llywelyn. Ym mis Mehefin 2007 enillodd radd anrhydedd o Ysgol Opera Ryngwladol Benjamin Britten yn y Coleg Cerdd Brenhinol, lle bu’n astudio dan nawdd Yvonne Wells. Cyn hynny, roedd wedi ennill gradd Anrhydedd BMus a Diploma Ôl-radd mewn Astudiaethau Lleisiol (Anrhydedd) yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bellach mae’n astudio gyda Russell Smythe.
Wrth astudio, enillodd Huw nifer o wobrwyon ac ysgoloriaethau anrhydeddus, gan gynnwys Cronfa Wingate, Gwobr Addysg Cerdd yr MBF, Gwobr Ymddiriedolaeth Goffa Ryan Davies, Ysgoloriaeth Syr Geraint Evans, Ysgoloriaeth Mabel Linwood Christopher ac Ysgoloriaeth James Pantyfedwen Undeb Cymru Fydd. Yn ogystal â hyn, ef oedd enillydd Gwobr Susan Chilcott 2006/7, ac mae’n un o Artistiaid Ifanc y Royal Philharmonic Society. Mae Huw hefyd wedi cael cryn lwyddiant wrth gystadlu: Ym mis Mehefin 2007, cyrhaeddodd rownd derfynol Cystadleuaeth Leisiol Ryngwladol Stuart Burrows a chystadleuaeth MOCSA 2005. Enillodd lu o gystadlaethau hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau yn 2005, gan gynnwys categori’r Unawd Operatig, y Gân Gelf, yr Unawd Gymraeg, Ysgoloriaeth Rowland Jones ac Ysgoloriaeth Osborne Roberts (Y Rhuban Glas).
Bydd Huw’n perfformio’n rheolaidd mewn cyngherddau a datganiadau ym mhob rhan o’r DU ac Iwerddon. Un o’i uchafbwyntiau fu perfformio yng Ngŵyl Corau Meibion Cymry Llundain yn Neuadd Frenhinol Albert, Llundain. Mae’r canwr yr un mor gartrefol ar lwyfannau opera, ac wedi perfformio nifer o rolau, gan gynnwys dirprwy’r rôl deitl yng nghynyrchiad Peter Hall o Albert Herring gyda Glyndebourne Touring Opera, y Cam Dystiwr mewn fersiwn a lwyfannwyd yn llawn o’r Dioddefaint yn ôl Sant Mathew gan Bach, a gyfarwyddwyd gan Katie Mitchell ar gyfer Glyndebourne Festival Opera, Hirt (dirprwy) yn Tristan und Isolde gan Wagner a Nerone yn L’incoronazione di Poppea, a gyfarwyddwyd gan Paul Curran, ar gyfer Ysgol Opera Ryngwladol Benjamin Britten a Nemorino - L’elisir D’amore gyda Opera South. At hyn, mae’n gyn-aelod o gorws Opera Cenedlaethol Cymru. Yn Chwefror 2008 perfformiodd y brif rol tenor Thaddeus yng nghynhyrchiad Tom Hawkes o The Bohemian Girl. Yn ystod Haf 2008 bydd eto yn dirprwyo rôl Albert Herring ar gyfer Glyndebourne Festival Opera.